Course Summary

Cwrs ar gyfer ymgeiswyr iaith gyntaf yn unig. Bu sefydlu Senedd Cymru ac ychwanegu mwy o bwerau yn ddiweddarach ynghyd a Deddf yr Iaith Gymraeg yn sbardun i'r angen am raddedigion o safon uchel - unigolion sydd sy'n gymwys i ymuno â gweithlu proffesiynol, ac i weithio'n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Oherwydd hynny, mae'n amser hynod gyffrous i astudio Cymraeg yn y brifysgol. Wrth ddewis astudio'r cwrs BA Cymraeg Proffesiynol, byddi'n ymuno â chwrs Cymraeg arloesol sydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a galwedigaethol sy'n addas ar gyfer y gweithle proffesiynol yn y Gymru gyfoes a'r tu hwnt. Heddiw, mae cyflogwyr, yn ogystal â darpar fyfyrwyr a rhieni, yn chwilio am radd ‘safon aur’ yn y Gymraeg. Dyma’r radd honno. **Pam astudio Cymraeg Proffesiynol yn Aber?** - Cartref Cymraeg Proffesiynol - Cyflwynwyd y cwrs yma yn gyntaf yn 2012 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. - Safonau Uchel - Fel adran rydym yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. - Arbenigwyr - Byddi'n cael dy ddysgu gan ddarlithwyr sy'n arbenigwyr yn eu meysydd. - Darlithydd Cymraeg Proffesiynol Dynodedig - Mae'r cwrs yn cael ei gyd-lynu gan Dr Rhianedd Jewell, darlithydd dynodedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, sydd yn rhoi ei sylw yn arbennig i'r cwrs hwn. - Amrywiaeth - Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o bynciau diddorol, o gyfieithu, golygu a chyhoeddi i ysgrifennu creadigol a hybu treftadaeth. - Canlyniadau Gwych - Mae canlyniadau ein graddedigion mewn Cymraeg Proffesiynol o safon uchel iawn. - Grwpiau Bach - Cwrs dethol yw hwn, ac felly mae'r dysgu'n digwydd mewn grwpiau bach. Mae'r sesiynau hyn yn adlewyrchu cyfarfodydd tîm y byd gwaith. - Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Yn Aberystwyth cei fyw trwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma: gweithgareddau UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), neuadd Pantycelyn, teithiau rygbi, côr Pantycelyn, a mwy. - Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg ac roedd 94% o foddhad cyffredinol yn yr Adran (NSS 2020). - Y Llyfrgell Genedlaethol - Yn ogystal â'r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae'r Adran ar stepen drws y Llyfrgell Genedlaethol - llyfrgell hawlfraint sydd â thros 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau ac fe gei ymaelodi'n rhad ac am ddim! Dyma grynodeb o'r hyn y mae'n bosibl y byddi'n ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. **Blwyddyn 1** Yn y flwyddyn gyntaf byddi'n astudio'r modiwl Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol. Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i'r maes. Byddi'n dysgu rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, sgiliau gweinyddol, siarad cyhoeddus, golygu a marchnata. Bydd cyfle iti weithio fel tîm ac i ddatblygu dy sgiliau marchnata wrth drefnu'r Noson Llên a Chân. Byddi'n cael gweithredu ar fwrdd golygyddol Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol yr Adran. Ti a'r myfyrwyr eraill fydd yn comisiynu ac yn golygu'r gwaith. **Blwyddyn 2 a 3** Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddi'n dilyn pedwar modiwl Cymraeg Proffesiynol: Y Gymraeg yn y Gweithle - Modiwl profiad gwaith yw hwn; Trosi ac Addasu - Modiwl cyfieithu; Bro a Bywyd - trafod twristiaeth a threftadaeth lenyddol; Prosiect Hir - cyfle i weithio ar brosiect ymchwil gwreiddiol ym maes Cymraeg Proffesiynol. Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau eraill yr Adran yn ogystal. **Sut y bydda i'n cael fy addysgu?** Drwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae’r grwpiau yn llai a’r awyrgylch yn fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. **Sut y bydda i'n cael fy asesu?** Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.

Course Details - Modules

Modules are not listed for this Course.

Course Details – Assessment Method

Assessment Methods are not listed for this Course.

Course Details – Professional Bodies

Professional Bodies are not listed for this Course.

How to Apply

26 January This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.

Application Codes

Course code: Q5P0

Institution code: A40

Campus Name: Main Site (Aberystwyth)

Campus code:

Points of Entry

The following entry points are available for this course:

Year 1

Entry Requirements for Advanced Entry (Year 2 and Beyond)

Entry Requirements for Advanced Entry are not listed for this Course.

International applicants

Standard Qualification Requirements

To include B in A-level Welsh 1st Language.

To include B in A-level Welsh 1st Language.

Pass in Access qualification in a relevant subject with Merit in 50% of units at level 3. To include B in A-level Welsh 1st Language.

To include B in A-level Welsh 1st Language.

To include B in A-level Welsh 1st Language.

Aberystwyth University welcomes the Welsh Baccalaureate as a valuable qualification in its own right and considers completion of the Welsh Baccalaureate Advanced Skills Challenge Certificate to be equivalent to an A level grade.

Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application. We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants. If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: ug-admissions@aber.ac.uk) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.

Please click the following link to find out more about qualification requirements for this course

Minimum Qualification Requirements

Minimum Further Information are not listed for this Course.

English language requirements

Test Grade AdditionalDetails
Cambridge English Advanced
Cambridge English Proficiency
IELTS (Academic) 6.5 With minimum 5.5 in each component.
PTE Academic 62.0 With minimum scores of 51 in each component.
TOEFL (iBT) 88.0 With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23.

If you are an international student needing more information about the English Language requirement for your course (e.g. country-specific English Language tests, Partner Institution tests, EU/EEA English Language qualifications where the school curriculum is taught in a native language) please contact the Undergraduate Admissions Office for further advice.

Unistats information

Student satisfaction : 85%

Employment after 15 months (Most common jobs): 75%

Go onto work and study: 85%

Fees and funding

England 9000.0 Year 1
Northern Ireland 9000.0 Year 1
Scotland 9000.0 Year 1
Wales 9000.0 Year 1
Channel Islands 9000.0 Year 1
Republic of Ireland 9000.0 Year 1
EU 14300.0 Year 1
International 14300.0 Year 1

Additional Fee Information

The UK and Welsh Governments have confirmed that EU students commencing their studies in the academic year 2021/22 will no longer be eligible for home fee status. Fees for EU students will therefore be charged in line with international fees from 2021/22 onwards. Please note Irish nationals will continue to be eligible for home fee status and support by the Welsh Government under the Common Travel Area arrangement.

Provider information

Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
United Kingdom
SY23 3FL

Career tips, advice and guides straight to your inbox.

Join our newsletter today.