Course Summary

Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, yn ddibynnol ar ba leoliad sy’n well gan y myfyriwr. Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) wedi'i llunio ar gyfer y rheini sydd eisoes yn gweithio yn y sector addysg a gofal plant, ac mae’n caniatáu iddynt astudio’n hyblyg o gwmpas eu hymrwymiadau gwaith. Mae hon yn rhaglen radd lawn amser, arloesol sydd wedi’i chywasgu i ddwy flynedd ac wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn cael gradd yn ogystal â thrwydded i ymarfer o fewn ystod o sefydliadau blynyddoedd cynnar. Bydd darlithoedd yn cael eu cyflwyno gyda’r hwyr ac ar ambell ddydd Sadwrn er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i weithio tra byddant yn cwblhau eu gradd. Yn gysylltiedig ag agwedd ymarferol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o arfer a damcaniaeth addysg a gofal blynyddoedd cynnar a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth lawn a chytbwys o’r pwnc. Datblygwyd y rhaglen er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau yn yr amgylchedd gwaith â damcaniaethau’n gysylltiedig ag addysg a gofal plant. Bydd y dysgu’n digwydd drwy drafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol. Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar. Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.

Course Details - Modules

Addysgir y rhaglen drwy ddull addysgu bloc arloesol, gan ganiatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio'n fanwl ar un modwl ar y tro. Rydym wedi gweld bod y dull hwn yn llwyddiannus wrth gefnogi myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o gynnwys y modwl. Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modwl ar bob lefel o’r rhaglen, a phob un wedi’i seilio ar wybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o agweddau penodol ar addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o bynciau a modylau'n ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, chwarae, llythrennedd, diogelu plant, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant. Yn ogystal â chynnwys academaidd y rhaglen, byddwch yn gallu bodloni gofynion y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol drwy gasglu tystiolaeth o fewn eich lleoliad gwaith. Modylau Lefel 4 Sgiliau Astudio Academaidd i Fyfyrwyr Datblygiad dynol Yr ymarferydd proffesiynol Chwarae plant: egwyddorion ac arfer Y mathemategydd ifanc: archwilio a datrys problemau Amlieithrwydd, aml-feddwl Modylau Lefel 5 Dulliau ymchwil ym maes addysg a gofal blynyddoedd cynnar Adfyfyrio ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar Lles, gofal a byw’n iach Iaith a llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar Amgylcheddau Dysgu: dan do ac allan Diogelu plant yn y blynyddoedd cynnar Modylau Lefel 6 Arweinyddiaeth a gwaith tîm yn y blynyddoedd cynnar Plant ag anghenion cymorth ychwanegol: cynhwysiant, eiriolaeth a thegwch Arweinyddiaeth ar gyfer systemau o ansawdd Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar Llythrennedd digidol ac yn y cyfryngau Sgiliau arwain mewn entrepreneuriaeth

Course Details – Assessment Method

Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy. Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd. Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.

Course Details – Professional Bodies

Professional Bodies are not listed for this Course.

How to Apply

26 January This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.

Application Codes

Course code: YBC2

Institution code: T80

Campus Name: Cardiff (Caerdydd)

Campus code:

Points of Entry

The following entry points are available for this course:

Year 1

Entry Requirements for Advanced Entry (Year 2 and Beyond)

Entry Requirements for Advanced Entry are not listed for this Course.

International applicants

Standard Qualification Requirements


Please click the following link to find out more about qualification requirements for this course

Minimum Qualification Requirements

Minimum Further Information are not listed for this Course.

English language requirements

Test Grade AdditionalDetails
English Language Entry Requirement Information are not listed for this Course.

Unistats information

Student satisfaction : 78%

Employment after 15 months (Most common jobs): 0%

Go onto work and study: 0%

Fees and funding

EU 9000.0 Year 1
England 9000.0 Year 1
Northern Ireland 9000.0 Year 1
Scotland 9000.0 Year 1
Wales 9000.0 Year 1
Channel Islands 9000.0 Year 1
International 13500.0 Year 1

Additional Fee Information

Additional Fee Information are not listed for this Course.

Provider information

College Road
Address2 are not listed for this Course.
Address3 are not listed for this Course.
Carmarthen
SA31 3EP

Career tips, advice and guides straight to your inbox.

Join our newsletter today.