Course Summary

Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, yn ddibynnol ar ba leoliad sy’n well gan y myfyriwr. Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen radd arloesol, lawn amser dros dair blynedd i’r rheini sydd â diddordeb mewn darganfod sut mae plant ifanc yn datblygu ac yn dysgu. Cyflwynir y cwrs mewn amgylchedd cefnogol a deniadol ac mae'n archwilio pob agwedd ar les a datblygiad cyfannol plant. Bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau'n ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, chwarae, llythrennedd, diogelu plant, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant. Mae cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth am arfer a damcaniaeth addysg a gofal blynyddoedd cynnar, a fydd yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth lawn a chytbwys o’r pwnc. Yn ogystal â chynnwys academaidd, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau dysgu sy’n archwilio'r agweddau ymarferol ar ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar drwy ddysgu ymarferol, gan wneud cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer. Bydd y dysgu’n digwydd drwy drafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol. Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor. Mae amser wedi’i gynnwys i’ch galluogi i wirfoddoli mewn sefydliadau blynyddoedd cynnar, os dymunwch hynny, er mwyn datblygu a chyfoethogi’ch datblygiad proffesiynol a chyflogaeth yn y dyfodol. Os oes gennych gymhwyster blynyddoedd cynnar eisoes ac yn dymuno ychwanegu at eich cymhwyster i radd BA (Anrh) lawn, mae mynediad uniongyrchol yn bosibl gyda’r radd hon a gellir trafod hyn gyda’r Tiwtor Derbyn.

Course Details - Modules

Addysgir y rhaglen drwy ddull addysgu bloc arloesol, gan ganiatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio'n fanwl ar un modwl ar y tro. Rydym wedi gweld bod y dull hwn yn llwyddiannus wrth gefnogi myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o gynnwys y modwl. Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modwl ar bob lefel o’r rhaglen, a phob un wedi’i seilio ar wybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o agweddau penodol ar addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o bynciau a modylau'n ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, chwarae, llythrennedd, diogelu plant, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant. Modylau Lefel 4 Sgiliau Astudio Academaidd i Fyfyrwyr Datblygiad dynol Yr ymarferydd proffesiynol Chwarae plant: egwyddorion ac arfer Y mathemategydd ifanc: archwilio a datrys problemau Amlieithrwydd, aml-feddwl Modylau Lefel 5 Dulliau ymchwil ym maes addysg a gofal blynyddoedd cynnar Adfyfyrio ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar Lles, gofal a byw’n iach Iaith a llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar Amgylcheddau Dysgu: dan do ac allan Diogelu plant yn y blynyddoedd cynnar Modylau Lefel 6 Arweinyddiaeth a gwaith tîm yn y blynyddoedd cynnar Plant ag anghenion cymorth ychwanegol: cynhwysiant, eiriolaeth a thegwch Arweinyddiaeth ar gyfer systemau o ansawdd Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar Llythrennedd digidol ac yn y cyfryngau Sgiliau arwain mewn entrepreneuriaeth

Course Details – Assessment Method

Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy. Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd. Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.

Course Details – Professional Bodies

Professional Bodies are not listed for this Course.

How to Apply

26 January This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.

Application Codes

Course code: M5Y2

Institution code: T80

Campus Name: SA1 Waterfront Campus, Swansea

Campus code:

Points of Entry

The following entry points are available for this course:

Year 1

Entry Requirements for Advanced Entry (Year 2 and Beyond)

Entry Requirements for Advanced Entry are not listed for this Course.

International applicants

Standard Qualification Requirements


Please click the following link to find out more about qualification requirements for this course

Minimum Qualification Requirements

Minimum Further Information are not listed for this Course.

English language requirements

Test Grade AdditionalDetails
English Language Entry Requirement Information are not listed for this Course.

Unistats information

Student satisfaction : 78%

Employment after 15 months (Most common jobs): 0%

Go onto work and study: 0%

Fees and funding

EU 9000.0 Year 1
England 9000.0 Year 1
Northern Ireland 9000.0 Year 1
Scotland 9000.0 Year 1
Wales 9000.0 Year 1
Channel Islands 9000.0 Year 1
International 13500.0 Year 1

Additional Fee Information

Additional Fee Information are not listed for this Course.

Provider information

College Road
Address2 are not listed for this Course.
Address3 are not listed for this Course.
Carmarthen
SA31 3EP

Career tips, advice and guides straight to your inbox.

Join our newsletter today.