Course Summary

Mae galw mawr am raddedigion sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu soffistigedig ac sydd hefyd yn deall materion fel statws cyfreithiol y Gymraeg, hawliau iaith, y dylanwadau ar y Gymraeg heddiw a sut y gellir cynllunio’n effeithiol ar gyfer dyfodol yr iaith. Yng ngeiriau Comisiynydd y Gymraeg: “Mae galw sylweddol ar hyn o bryd yn y meysydd gofal ac iechyd, gweinyddiaeth gyhoeddus, heddluoedd a sefydliadau trydydd sector. Mae’r cwrs hwn i’w groesawu fel cam tuag at greu gweithlu’r dyfodol.” Mae’r cwrs BA Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi’n cynnwys modiwlau fel: **Amlddiwylliannedd a’r Gymraeg:** Mae’r modiwl hwn yn edrych ar sut y mae syniadau am iaith, diwylliant a chenedl wedi datblygu yn ystod y canrifoedd diwethaf. Edrychir yn benodol ar dwf amrywiaeth heddiw a’r ffyrdd o ddelio gyda hyn. Edrychir ar sut y mae’r Gymraeg yn cael ei chynnwys a’i heithrio o drafodaethau ar amrywiaeth a pha fath o Gymru y gellir ei dychmygu yn y dyfodol. **Cymraeg Ddoe a Heddiw:** Yn rhan gyntaf y modiwl, byddwn yn ystyried prif gyfnodau hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg o gyfnod y Frythoneg i gyfnod Cymraeg Canol. Yn ail ran y modiwl, byddwn yn astudio dylanwadau cymdeithasol ar yr iaith Gymraeg. Rhoddir sylw penodol i drin a dehongli data’r Cyfrifiad. Gyda’r twf mewn addysg Gymraeg, technoleg a mewnfudo, beth yw’r heriau a’r cyfleoedd i’r iaith Gymraeg heddiw? Gyda dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg, pa fath o Gymraeg sy’n ‘safonol’ erbyn heddiw? **Statws y Gymraeg:** Dyma fodiwl sy’n cynnig trosolwg hanesyddol o statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg. I ddechrau, dadansoddir y Gymraeg fel iaith llywodraeth a chyfraith o gyfnod yr oesoedd canol i’r cyfnod modern cynnar. Yna, bydd myfyrwyr yn edrych ar ymgyrchoedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i adfer yr iaith yn y llysoedd, cyn edrych yn fanwl ar ddeddfau iaith yr ugeinfed ganrif yn 1942, 1967 a 1993. Ystyrir i ba raddau y llwyddwyd i adfer y Gymraeg ym mywyd swyddogol Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Byddwch yn cael eich dysgu gan ddarlithwyr sy’n cynghori ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ar faterion fel y rhai uchod. Ymhlith staff yr Adran, mae Prifeirdd, awduron o fri ac enillwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Ceir cyfradd bodlonrwydd cyffredinol o 100% ymhlith myfyrwyr Adran y Gymraeg, Abertawe. Dyma a ddywed rhai o’n myfyrwyr am Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe: “Y penderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe oedd penderfyniad gorau fy mywyd. Mae fy amser yn y brifysgol wedi bod yn un bythgofiadwy, o ran fy astudiaethau a’m bywyd cymdeithasol. O ran yr Adran Gymraeg, maen nhw mor gefnogol. Ar unrhyw adeg, gallaf anfon e-bost at aelod o staff, neu fynd i’w swyddfa, a byddant yn barod i dreulio amser yn gweithio gyda fi.” (Rebecca Morgan) “Mae cael bod mewn adran gartrefol, mewn dinas mor fywiog a diddorol, a hynny o fewn deng munud i draethau’r Gŵyr yn gwneud Abertawe yn brifysgol fendigedig i astudio ynddi hi. Mi fyddai’n anodd meddwl am le brafiach.” (Grug Muse)

Course Details - Modules

Modules are not listed for this Course.

Course Details – Assessment Method

Assessment Methods are not listed for this Course.

Course Details – Professional Bodies

Professional Bodies are not listed for this Course.

How to Apply

26 January This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.

Application Codes

Course code: Q565

Institution code: S93

Campus Name: Singleton Park Campus

Campus code:

Points of Entry

The following entry points are available for this course:

Year 1

Entry Requirements for Advanced Entry (Year 2 and Beyond)

Entry Requirements for Advanced Entry are not listed for this Course.

International applicants

Standard Qualification Requirements

Applicants without an A Level in Welsh will be considered.

We recognise the EPQ as an excellent indicator of success. If you are predicted a Grade B or above in the EPQ, you will receive an offer with a one grade reduction, to include your EPQ with a grade B.

Please click the following link to find out more about qualification requirements for this course

Minimum Qualification Requirements

Minimum Further Information are not listed for this Course.

English language requirements

Test Grade AdditionalDetails
English Language Entry Requirement Information are not listed for this Course.

Unistats information

Student satisfaction : 73%

Employment after 15 months (Most common jobs): 60%

Go onto work and study: 95%

Fees and funding

England 9000.0 Year 1
Northern Ireland 9000.0 Year 1
Scotland 9000.0 Year 1
Wales 9000.0 Year 1
EU 15400.0 Year 1
International 15400.0 Year 1
Channel Islands 15400.0 Year 1
Republic of Ireland 15400.0 Year 1

Additional Fee Information

Additional Fee Information are not listed for this Course.

Provider information

Singleton Park
Address2 are not listed for this Course.
Address3 are not listed for this Course.
Swansea
SA2 8PP

Career tips, advice and guides straight to your inbox.

Join our newsletter today.