Dyma gwrs sy’n ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol o ddydd i ddydd. A hoffech weithio mewn meysydd fel y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynllunio ieithyddol a gweinyddu cyhoeddus? Bydd y cwrs hwn yn fan cychwyn ardderchog i chi anelu at yrfa yn un o’r meysydd hyn.
Iaith fyw y presennol yw'r Gymraeg ym Mangor. Ar y cwrs hwn cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith i ddibenion proffesiynol a galwedigaethol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?
Derbynnir myfyrwyr o gefndiroedd iaith gyntaf ac ail iaith i ddilyn y cwrs hwn. Mae’n ddilyniant naturiol hefyd i fyfyrwyr a ddilynodd y flwyddyn sylfaen Cymraeg i Ddechreuwyr. Mae’n addas yn ogystal i rai a gyrhaeddodd lefel hyfedredd mewn Cymraeg, e.e. drwy Gyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.
Course Details - Modules
Am fanylion y modiwlau, ewch i wefan y brifysgol os gwelwch yn dda.
Course Details – Assessment Method
Assessment Methods are not listed for this Course.
Course Details – Professional Bodies
Professional Bodies are not listed for this Course.
How to Apply
26 January This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application Codes
Course code:
Q563
Institution code:
B06
Campus Name:
Main Site
Campus code:
Points of Entry
The following entry points are available for this course:
Year 1
Entry Requirements for Advanced Entry (Year 2 and Beyond)
Entry Requirements for Advanced Entry are not listed for this Course.
International applicants
Standard Qualification Requirements
Gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Celfyddydau neu Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Ffrangeg, Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol).
Including a grade B in Welsh (or a grade B in an Arts or Humanities subject studied through the medium of Welsh - e.g. French, German, History, Geography, Religious Studies).
T Level qualifications are accepted on a case by case basis.
Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall mewn Cymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch).
Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher).
Isafswm o 5 Scottish Highers - efallai y bydd angen rhai graddau pwnc-benodol/Efallai y bydd angen Advanced Highers.
Minimum of 5 Scottish Highers - some subject specific grades/Advanced Highers may be required.
Cwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg. Pasio yn ofynnol.
Access course with Welsh elements. Pass required.
Pasio yn ofynnol. Gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg.
Pass required. Including grade H5 in Welsh.
Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau BTEC eraill ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill.
We will also consider other BTEC qualifications in conjunction with other level 3 qualifications.
Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill.
We will accept this qualification in conjunction with other level 3 qualifications.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt. Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn cwrdd a’r gofynion mynediad a nodwyd, efallai y gallwch gael mynediad i’r cwrs hwn trwy lwybr Blwyddyn Sylfaen. Gwelwch: Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565).
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg), manylion yma: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements
We are happy to accept combinations of the qualifications listed above, as well as alternative Level 3 qualifications such as City & Guilds, Access and Cambridge Technical Diplomas. Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). We also welcome applications from mature learners.
If you don't think you'll meet the entry requirements specified, you may be able to gain entry to this course via a Foundation Year route. Please see: Welsh for Beginners/ Cymraeg i Ddechreuwyr (Q565).
International Candidates: school leaving qualifications and college diplomas are accepted from countries worldwide (subject to minimum English Language requirements), details at: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements
Please click the following link to find out more about qualification requirements for this course
Minimum Qualification Requirements
Minimum Further Information are not listed for this Course.
English language requirements
Test
Grade
AdditionalDetails
For the most up-to-date information on acceptable English Language proficiency qualifications, please visit our webpage below.