Course Summary

UCAS Code: 3D3Z **TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol (gyda SAC)** Ar ôl cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd AC yn dod yn ymarferwyr effeithiol, brwdfrydig ac adfyfyriol Addysg Grefyddol. Y prif bwyslais fydd hyrwyddo dealltwriaeth glir o'r hyn a olygir gan Addysg Grefyddol ragorol, a datblygu sgiliau hyfforddeion wrth gymhwyso'r nodweddion hyn i addysgu dosbarth. Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi. **Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.** Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am **3F5T**.

Course Details - Modules

Modules are not listed for this Course.

Course Details – Assessment Method

Assessment Methods are not listed for this Course.

Course Details – Professional Bodies

Professional Bodies are not listed for this Course.

How to Apply

26 January This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.

Application Codes

Course code: 3D3Z

Institution code: B06

Campus Name: Main Site

Campus code:

Points of Entry

The following entry points are available for this course:

Year 1

Entry Requirements for Advanced Entry (Year 2 and Beyond)

Entry Requirements for Advanced Entry are not listed for this Course.

International applicants

Standard Qualification Requirements


**Gofynion Mynediad** • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig ag addysg gynradd. • Gradd B/Gradd 5 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg. Lle ceir yr hyn sy'n cyfateb i radd B mewn naill ai Lenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael o leiaf radd C/gradd 4 yn yr arholiad TGAU cyfatebol yn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf. • Rhaid cael gradd B/gradd 5 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd. • Bydd ymgeiswyr sydd â Gradd C mewn mathemateg a/neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf yn gymwys i wneud cais a dechrau'r cwrs. Bydd y myfyrwyr hyn yn cael cyfle a chefnogaeth i sefyll profion cywerthedd i radd B TGAU yn ystod y rhaglen. Ni ddyfernir SAC nes bod y myfyriwr wedi llwyddo yn y prawf cywerthedd. Derbynnir llawer o gymwysterau hefyd fel rhai cyfwerth â gradd B mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg - cysylltwch â ni am wybodaeth. • TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Gwyddoniaeth. • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad iechyd. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).

Please click the following link to find out more about qualification requirements for this course

Minimum Qualification Requirements

Minimum Further Information are not listed for this Course.

English language requirements

Test Grade AdditionalDetails
English Language Entry Requirement Information are not listed for this Course.

Unistats information

Student satisfaction : 97%

Employment after 15 months (Most common jobs): 70%

Go onto work and study: 90%

Fees and funding

Republic of Ireland 9000.0 Year 1
England 9000.0 Year 1
Northern Ireland 9000.0 Year 1
Scotland 9000.0 Year 1
Wales 9000.0 Year 1
Channel Islands 9000.0 Year 1

Additional Fee Information

Tuition fees and scholarship information for International applicants can be found here: https://www.bangor.ac.uk/international/tuition

Provider information

Address1 are not listed for this Course.
Address2 are not listed for this Course.
Address3 are not listed for this Course.
Bangor (Wales)
LL57 2DG

Career tips, advice and guides straight to your inbox.

Join our newsletter today.